Pentref hamdden
Penrhos

Cynnig wedi’i
gynllunio’n ofalus

Rydym yn paratoi’r cynlluniau manwl sydd eu hangen i symud ymlaen gyda phentref gwyliau newydd ym Mhenrhos. Mae ein dull yn cael ei lunio gan y dirwedd ac mae’n anelu at amddiffyn a gwella’r coetir a’r lleoliad arfordirol.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer datblygiad hamdden ym Mhenrhos yn 2016, ar gyfer hyd at 500 o gabanau gwyliau. Mae’r cam hwn o’r broses gynllunio yn canolbwyntio ar ddyluniad manwl y cynllun, gan gynnwys trefniant y safle, tirlunio, ymddangosiad a rheolaeth amgylcheddol, o fewn y cynllun a gymeradwywyd eisoes.

Cymeradwywyd cais Materion a Gadwyd yn Ôl ar wahân ar gyfer Parc Arfordirol Penrhos yn 2020. Roedd yn ymwneud yn benodol â’r llwybr arfordirol ac ardaloedd eraill a oedd yn hygyrch i’r cyhoedd o fewn y parc. Roedd y gwaith a gymeradwywyd wedi’i gyfyngu i dirlunio a rheoli ecolegol, heb unrhyw strwythurau adeiledig wedi’u cynnig. Dechreuodd y gwelliannau hyn ar y safle yn 2021.

Nid yw’r ail gais Materion a Gadwyd yn ôl hwn yn effeithio ar y Parc Arfordirol. Yn hytrach, mae’n cwmpasu dyluniad manwl yr holl strwythurau adeiledig o fewn Penrhos ac yn cynnwys cynigion i agor Cae Glas fel gwarchodfa natur gyhoeddus, fel sy’n ofynnol o dan y caniatâd cynllunio hybrid a’r cytundeb Adran 106 cysylltiedig.

Mae ein dull yn rhoi mynediad cyhoeddus, natur, ansawdd dylunio a stiwardiaeth hirdymor yn y lle cyntaf. Bydd y prosiect yn cefnogi swyddi lleol diogel ac yn helpu i gryfhau economi ymwelwyr Ynys Môn drwy gydol y flwyddyn.

Hyd at
500 o gabanau mewn

clystyrau bach sydd wedi eu gosod o fewn y coetir a’r arfordir

Adeilad
canolog

sy’n cynnwys cyfleusterau hamdden fel parc dŵr dan-do, chaffis a bwytai

Cynllun
dan arweiniad y dirwedd

sy’n defnyddio llennyrch presennol a golygfeydd allweddol

Gwarchodfa
Natur Cae Glas

 wedi’i hagor i’w defnyddio gan y cyhoedd gyda llwybrau newydd a chanolfan ymwelwyr

Canolbwynt
ymwelwyr cymedrol gyda chyfleusterau hanfodol,

adeilad marchnad ffermwyr a sba

Cynefinoedd
a phlannu

newydd i gefnogi bioamrywiaeth a gwydnwch

Llwybrau
cerdded a beicio

ar draws y safle

Bws gwennol
rhwng Canol Tref Caergybi

ac adeilad y dderbynfa

Manteision drwy
gydol y flwyddyn i fusnesau

gyda nifer fwy o ymwelwyr i’r ardal

Beth yw Pentref Hamdden Penrhos?

Mae’n gyrchfan gwyliau arfaethedig yng Nghaergybi. Mae’n darparu hyd at 500 o letyau a bythynnod, cyfleusterau hamdden, bwytai, sba a gweithgareddau teuluol. Mae’r cynlluniau hefyd yn agor Cae Glas fel gwarchodfa natur gyhoeddus newydd gyda llwybrau cerdded, mannau gwyrdd a chanolfan ymwelwyr.

Beth yw cais Materion a Gadwyd yn ôl?

Dyma’r cam manwl sy’n dilyn caniatâd cynllunio amlinellol. Mae’n dangos sut olwg fydd ar y safle a sut y bydd yn gweithio, gan gynnwys cynllun, mynediad, dyluniad, tirlunio a mesurau amgylcheddol. Gall pobl ddarllen y cynlluniau a rhannu barn cyn i unrhyw waith ddechrau.

Sut fydd y datblygiad o fudd i’r ardal leol?

Mae’r cynigion yn dod â buddsoddiad a swyddi hirdymor. Maent yn cynnwys tua £250 miliwn o fuddsoddiad, tua 280 o swyddi llawn amser ar y safle, 66 o swyddi anuniongyrchol yn yr economi leol a hyd at 600 o swyddi adeiladu. Y nod yw cadw cymaint o werth â phosibl ar yr ynys.

A fydd Cae Glas a llwybrau cerdded lleol yn parhau i fod yn hygyrch?

Byddant. Bydd Cae Glas yn cael ei agor i’w ddefnyddio gan y cyhoedd gyda llwybrau newydd a gwell, mannau gwyrdd a lleoedd ar gyfer hamdden tawel. Mae mynediad cyhoeddus i Barc Arfordirol Penrhos yn parhau o dan gymeradwyaeth 2020.

Sut fydd traffig a mynediad ymwelwyr yn cael eu rheoli?

Bydd asesiad trafnidiaeth yn llywio’r dyluniad. Bydd bws gwennol yn rhedeg o Ganol Tref Caergybi. Bydd llwybrau cerdded a beicio yn cael eu gwella. Bydd traffig adeiladu yn defnyddio llwybrau y cytunwyd arnynt i leihau aflonyddwch.

Ymgyrch gwybodaeth
gyhoeddus

Rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau gwybodaeth gyhoeddus fel y gall trigolion ddysgu mwy am y cynigion.

Bydd y digwyddiadau hyn yn egluro’r cynlluniau manwl, yn ateb cwestiynau cyffredin ac yn dangos sut mae’r cais Materion a Gadwyd yn Ôl wedi’i lunio.

Rhannwch eich sylwadau

Er bod cwmpas cyffredinol y prosiect eisoes wedi’i bennu drwy ganiatâd cynllunio amlinellol 2016, rydym yn croesawu sylwadau ar y cynlluniau manwl yr ydym yn eu cyflwyno.

Gallwch rannu eich sylwadau drwy:

Ebost: wales@consultation-online.co.uk
Ffon (Freephone): 0800 066 8294

Diolch am eich adborth, mae’r ymgynghoriad hwn bellach ar gau.